Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018
Amser:
09.30 -
10.49
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Paul Davies AC Llyr Gruffydd AC |
Tystion: |
Ben Lewis, Prifysgol Caerdydd Amy Sykes, Prifysgol Caerdydd Patrick Wrangles, Prifysgol Caerdydd |
Comisiynydd Safonau: |
Syr Roderick Evans QC (Comisiynydd Safonau)
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Dygodd y Cadeirydd sylw'r Aelodau at Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar yr Arolwg Urddas a Pharch a gyhoeddwyd heddiw. Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin.
1.3 Nododd yr Aelodau adroddiad gan y Comisiynydd Safonau o dan Reol Sefydlog 22.2 (i) a ddaeth i law ar 18 Mehefin. Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin.
2.1 Trafododd y Pwyllgor y Polisi Urddas a Pharch â Ben Lewis, Cyfarwyddwr, Cymorth a Lles Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, Patrick Wrangles, Pennaeth Iechyd a Lles, Prifysgol Caerdydd ac Amy Sykes, Cydlynydd Lles ac Uwch-ymarferydd Lles, Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â'r gwaith y mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn ymgymryd ag ef yn y maes hwn.